Dyro olwg ar dy haeddiant,
Golwg ar dy deyrnas rad;
Brynwyd i mi ac a seliwyd,
Seliwyd i mi ā dy waed;
Rho i mi gyrchu tu ag atti,
Peidio byth a llwfrhau;
Ar fy nhaith ni cheisiaf gennyt,
Ond yn unig dy fwynhau.
Ac ni cheisiaf drysor arall,
Ond tydi mewn anial fyd;
'Rwyt ti'n ddigon byth dy hunan,
Dim ond ti a lanw mryd,
Nid oes gystudd fyth wna niwed,
Pan bwy'n pwyso ar dy rym;
Hebot nid oes rwyd gan Satan.
Na wna'n rhyw fodd niwed im'.
Gyda thi yr āf trwy'r fyddin,
Gyda thi yr āf trwy'r tan, -
Nid ofnaf ymchwydd yr Iorddonen,
Ond it' fyned o fy mlaen:
Ti yw fy amddiffynfa gadarn,
Ti yw fy Mrenin a fy Nhad;
Ti dy hunan oll yn unig,
Yw fy iachawdwriaeth rād.
Ffynnon wyt o bob tosturi,
Nid oes gwybod
faint dy ras,
Dy haelioni sydd yn cynnal,
Pob peth ar y ddaear lās:
Dal fy ysbryd gwan i fynu,
Edrych ar y bryniau mawr,
Sydd yn pwyso ar fy ngalon,
Ac yn ceisio'm dodi i lawr.
D'wed pa bryd cāf yfed dyfroedd,
Dyfroedd gloew sy'n iachau,
Pob rhyw bleser wedi darfod,
Ond yn unig dy fwynhau:
Pwyso'm henaid ar dy fynwes,
Edrych yn dy wyneb llon,
Caru nes anghofio'r oriau,
Sy' imi ar y ddaear hon.
William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Ffynnon wyt o bob tosturi Gwlad o d'wyllwch wyf yn trigo O am nerth i dreulio 'nyddiau Tan y don yr wyf yn llefain |
Give a look on thy virtue,
A look on thy gracious kingdom;
Bought for me and sealed,
Sealed for me with thy blood;
Grant me to set off towards thee,
And never to be discouraged;
On my journey I will seek nothing from thee,
But only to enjoy thee.
And I will seek no other treasure,
But thee in a desert world;
Thou art sufficient forever thyself,
Non but thee shall fill my mind,
There is no affliction shall ever do harm,
While I live leaning on thy strength;
Without thee Satan has no snare,
That can do any kind of harm to me.
With thee I shall go through the army,
With thee I shall go through the fire, -
I shall not fear the swelling of the Jordan,
If only thou go before me:
Thou are my strong defence,
Thou are my King and my Father;
Thou thyself all alone,
Art my gracious salvation.
A fount art thou of every mercy,
There is no knowing
the extent of thy grace,
Thy goodness is upholding
Every thing under the blue sky:
Hold my weak spirit up,
Look on the great hills,
Which are weighing on my heart,
And trying to put me down.
Say when I may drink waters,
Clear waters which are healing,
Every kind of pleasure having faded away,
Except enjoying thee alone:
Leaning my soul on thy breast,
Looking on thy cheerful face,
Loving until forgetting the hours,
Which are left to me on this earth.
tr. 2011 Richard B Gillion
|
|